Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2015

 

 

 

Amser:

09.00 - 10.41

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/2923

 

 

Cofnodion Cryno:

Preifat

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Darren Millar AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Mike Hedges AC

Sandy Mewies AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Michael Kay (Clerc)

Leanne Hatcher (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

Andrew Minnis (Ymchwilydd)

Stephen Martin (Swyddfa Archwilio Cymru)

Jeremy Morgan (Swyddfa Archwilio Cymru)

Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru)

Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru)

Dave Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru)

 

 

 

 

<AI1>

1   Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies. Nid oedd dirprwy ar ei rhan.

1.3        Yn dilyn ethol Aelodau i'r Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Mehefin, diolchodd y Cadeirydd i William Graham am ei gyfraniad i'r Pwyllgor a chroesawodd Mohammad Asghar, a oedd yn dychwelyd i'r Pwyllgor.

1.4        Datganodd Sandy Mewies fuddiant fel Aelod o Gomisiwn y Cynulliad (eitem 2.1).

 

</AI1>

<AI2>

2   Papurau i’w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at gyllideb Comisiwn y Cynulliad pan fydd yn craffu ar gyfrifon blynyddol y Comisiwn yn nhymor yr hydref.

 

</AI2>

<AI3>

2.1 Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan y Dirprwy Lywydd (1 Mehefin 2015)

 

</AI3>

<AI4>

3   Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod yr adroddiad drafft

3.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar rai mân newidiadau. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y mis.

 

</AI4>

<AI5>

4   Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru

4.1 Nododd yr aelodau y llythyr a gafwyd gan Dr Peter Higson (4 Mehefin) ynglŷn â gohirio'r cam o anfon yr adroddiad ar statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr at y Pwyllgor, a'r cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (8 Mehefin) bod mesurau arbennig wedi cael eu gosod ar y bwrdd iechyd fel rhan o Fframwaith Uwchgyfeirio GIG Cymru.

 

</AI5>

<AI6>

5   Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

5.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, a'r sylwadau a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.

5.2 Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch argymhellion 1, 3, 7 ac 8.

 

 

</AI6>

<AI7>

6   Glastir: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

6.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, a'r sylwadau a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.

6.2 Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch ymateb y Llywodraeth i argymhellion yr adroddiad.

 

 

</AI7>

<AI8>

7   Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf

7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan yr Archwilydd Cyffredinol ar ei adroddiad diweddar.

7.2 Cytunodd yr Aelodau gynnal ymchwiliad byr i'r pwnc hwn.

 

</AI8>

<AI9>

8   Y flaenraglen waith: Rhaglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2015-16

8.1 Trafododd yr Archwilydd Cyffredinol ei raglen waith arfaethedig gyda'r Pwyllgor a chroesawodd yr awgrymiadau a'r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Aelodau.

 

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>